Lleoliad:
Swyddfa’r Llywydd, 4ydd llawr - Tŷ Hywel
Dyddiad: Dydd Mawrth, 26 Tachwedd 2019
Amser:
08.30 -
08.45
------
Categori |
Enwau |
Aelodau’r Pwyllgor: |
Elin Jones AC, Llywydd (Cadeirydd) Rebecca Evans AC Darren Millar AC Rhun ap Iorwerth AC Caroline Jones AC |
Staff y Pwyllgor: |
Aled Elwyn Jones (Clerc) |
Eraill yn bresennol |
Ann Jones AC, Y Dirprwy Lywydd Siwan Davies, Cyfarwyddwr Busnes y Cynulliad Siân Wilkins, Pennaeth Gwasanaeth y Siambr a Phwyllgorau Julian Luke, Pennaeth Pwyllgorau Polisi a Deddfwriaeth Gwion Evans, Pennaeth Swyddfa Breifat y Llywydd Elin Roberts, Cynghorwr Polisi i'r Llywydd Helen Carey, Llywodraeth Cymru |
Croesawodd y Llywydd Julian Luke, Pennaeth Gwasanaeth y Pwyllgorau Polisi a Deddfwriaeth a'i gyflwyno i'r Aelodau
· Cytunodd y Pwyllgor ar gofnodion y cyfarfod ar gyfer eu cyhoeddi.
Dydd Mawrth
Dydd Mercher
Nododd y Pwyllgor Busnes amserlen busnes y Llywodraeth ar gyfer y tair wythnos nesaf.
Nododd y Rheolwyr Busnes gais David Melding am ddadl ar y Cynnig i ddirymu Rheoliadau Rhentu Cartrefi (Ffioedd etc.) (Gwybodaeth Benodedig) (Cymru) 2019, a chytunwyd i drefnu'r ddadl ar gyfer 11 Rhagfyr 2019.
Penderfynodd y Pwyllgor Busnes ar drefn busnes y Cynulliad a chytunodd i gynnwys yr eitemau o fusnes a ganlyn ar yr amserlen:
Dydd Mercher 11 Rhagfyr 2019
· Cynnig i ddirymu Rheoliadau Rhentu Cartrefi (Ffioedd etc.) (Gwybodaeth Benodedig) (Cymru) 2019 (15 munud)
Dydd Mercher 8 Ionawr 2020
Trafododd y Rheolwyr Busnes ymateb y Pwyllgor Cydraddoldeb, Llywodraeth Leol a Chymunedau i'r amserlen arfaethedig ar gyfer y Bil, a'r cyfaddawd arfaethedig a ddaeth i'r amlwg ar ôl y cyfarfod yr wythnos diwethaf ar gyfer ymestyn Cyfnod 1 trwy gael Cyfnod 2 byrrach.
Mynegodd Darren Millar, Rhun ap Iorwerth a Caroline Jones gefnogaeth i safbwynt y pwyllgor, gan bwysleisio pwysigrwydd tystiolaeth dda ar gyfer deddfwriaeth dda. Fe wnaethant nodi y dylid cael isafswm o 12 wythnos ar gyfer Cyfnod 1, yn hytrach na chyfnod safonol neu uchaf, yn enwedig ar gyfer Bil mor sylweddol.
Gwrthwynebodd y Trefnydd unrhyw newid i'r amserlen arfaethedig, gan bwysleisio bod yr amserlen eisoes yn dynn ar gyfer ei gweithredu a bod angen ffenestr lawn ar gyfer Cyfnod 2 er mwyn caniatáu ar gyfer cyflwyno gwelliannau, gan gynnwys amser i weithredu argymhellion disgwyliedig y pwyllgor.
Gan fod mwyafrif ar gyfer amserlen arfaethedig y llywodraeth o dan system bleidleisio wedi'i phwysoli'r Pwyllgor Busnes, cytunwyd ar yr amserlen a gynigiwyd gan y llywodraeth. Cytunodd y Rheolwyr Busnes i ysgrifennu at y Pwyllgor Cydraddoldeb, Llywodraeth Leol a Chymunedau i'w hysbysu o'u barn. Cytunodd y Pwyllgor i edrych ar amserlennu gwaith craffu ar ddeddfwriaeth fel rhan o'i baratoadau ar gyfer y Chweched Cynulliad.
Cadarnhaodd y Rheolwyr Busnes y trefniadau ar gyfer cyflwyno busnes y cyfarfod llawn a gwelliannau yn ystod cyfnod toriad y Nadolig a chytunwyd ar y trefniadau ar gyfer cyflwyno cwestiynau ysgrifenedig y Cynulliad.